DARPARIAETH EFFAITH WELEDOL (VIP) BLAENORIAETHU ERYRI

National Grid yn rhoi’r newyddion diweddaraf am y Prosiect i Ddarparu ar gyfer Effaith Weledol (VIP) er mwyn lleihau effaith weledol llinellau uwch ben mewn AHNEoedd a Pharciau Cenedlaetholational

  • Cam diweddaraf prosiect gwerth £500 miliwn i leihau effaith weledol seilwaith trydan mewn tirweddau gwarchodedig
  • Pedwar lleoliad yng Nghymru a Lloegr wedi’u blaenoriaethu gan grŵp rhanddeiliaid blaenllaw ar gyfer gwaith technegol manwl
  • Cynllun gwerth £24 miliwn ar gyfer prosiectau llai i wella tirweddau yn mynd i gael ei lansio yn y gaeaf

Mae cynlluniau i leihau effaith weledol seilwaith trydan mewn tirweddau a warchodir yn genedlaethol ledled Cymru a Lloegr wedi cyrraedd carreg filltir newydd, yn dilyn penderfyniadau gan Grŵp Cynghori’r prosiect i Randdeiliaid sydd â chadeirydd annibynnol.

Ym mis Tachwedd 2014, lluniwyd rhestr fer o ddeuddeg darn o linellau foltedd uchel mewn wyth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Pharc Cenedlaethol fel y rhai oedd â’r effaith fwyaf arwyddocaol ar y dirwedd ac yn weledol, yn dilyn astudiaeth a oruchwyliwyd gan arbenigwr blaenllaw ar dirwedd, yr Athro Carys Swanwick

Ers hynny, mae National Grid ac ymgynghorwyr tirwedd annibynnol wedi gwneud rhagor o waith technegol gyda chyfraniad sylweddol a manwl iawn gan randdeiliaid lleol ym mhob un o’r lleoliadau. Mae hyn wedi galluogi’r Grŵp Cynghori i Randdeiliaid i flaenoriaethu pedwar prosiect o’r rhestr fer.

Gwnaed penderfyniadau’r Grŵp Cynghori i Randdeiliaid ar ôl cynnal adolygiad trwyadl o bob un o’r darnau o linell a oedd ar y rhestr fer. Bu’r aelodau mewn cyfarfod deuddydd yn ystyried pob prosiect gan ddefnyddio set o bum egwyddor arweiniol o bolisi’r Prosiect i Ddarparu ar gyfer Effaith Weledol.

Bwriedir symud ymlaen â’r pedwar prosiect hyn dros y 12 mis nesaf ar gyfer gwaith dichonoldeb technegol manwl a fydd yn cynnwys astudiaethau amgylcheddol, astudiaethau archaeolegol a gwaith peirianyddol ‘yn y maes’. Bydd llawer o waith ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau lleol hefyd.

Dyma linellau trawsyrru National Grid sydd wedi’u blaenoriaethu mewn tirweddau gwarchodedig:

  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dorset ger Winterbourne Abbas
  • Parc Cenedlaethol New Forest ger Hale
  • Parc Cenedlaethol y Peak District ger Dunford Bridge
  • Parc Cenedlaethol Eryri ger Porthmadog

Mae National Grid yn bwriadu defnyddio rhan o lwfans o £500 miliwn y trefnodd Ofgem ei fod ar gael tan 2021 i leihau effaith weledol darnau o linellau uwch ben foltedd uchel yn y lleoliadau hyn. Ystyriwyd nifer o wahanol ffyrdd o wneud hyn ym mhob lleoliad.

 

Oherwydd natur sensitif yr ardaloedd gwarchodedig hyn, gwelwyd mai rhoi ceblau tanddaear yn lle’r llinellau uwch ben presennol yw’r opsiwn a ffefrir yn gyffredinol, o safbwynt technegol ac mewn trafodaeth gyda rhanddeiliaid lleol.

Dywedodd Chris Baines, Cadeirydd y Grŵp Cynghori i Randdeiliaid: “Mae lleihau effaith weledol peilonau a llinellau pŵer yn ein tirweddau mwyaf gwerthfawr yn ddymunol iawn, ond mae hefyd yn gostus iawn ac yn gymhleth o safbwynt technegol ac felly rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Er bod pedwar cynllun wedi’u blaenoriaethu, nid oes yr un o’r lleoliadau ar ein rhestr fer wreiddiol wedi’i ollwng yn llwyr a byddant yn dal o dan ystyriaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol i leihau effaith llinellau trawsyrru National Grid o dan y Prosiect i Ddarparu ar gyfer Effaith Weledol (VIP).”

Dywedodd Hector Pearson, Rheolwr y Prosiect i Ddarparu ar gyfer Effaith Weledol, National Grid: “Mae hwn yn brosiect unigryw o dan arweiniad rhanddeiliaid ac mae’n dal yn gyfle o bwys i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, a threftadaeth ddiwylliannol ac amgylcheddol rhai Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol. Byddwn yn dal i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid nid yn unig i leihau effaith ein llinellau trawsyrru yn yr ardaloedd hyn ond hefyd i wella’r dirwedd a chynnig gwerth am arian.”

Yr amgylcheddwr, Chris Baines, yw cadeirydd y Grŵp Cynghori i Randdeiliaid sy’n cynnwys cynrychiolwyr blaenllaw o sefydliadau yn cynnwys Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol, Campaign to Protect Rural England, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Historic England, Cadw, Natural England a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe’i sefydlwyd i helpu National Grid i benderfynu pa linellau trawsyrru y dylid eu blaenoriaethu er mwyn defnyddio’r lwfans o £500 miliwn.

Y tirweddau gwarchodedig sydd heb eu blaenoriaethu yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, AHNE High Weald, AHNE North Wessex Downs ac AHNE Tamar Valley. Bydd y lleoliadau hyn yn dal i gael eu hystyried ar gyfer gwaith sy’n defnyddio’r lwfans VIP yn y dyfodol.

Yn ogystal, mae National Grid yn bwriadu defnyddio rhan o’r £500 miliwn ar gyfer prosiectau llai, mwy lleol, i wneud gwelliannau gweledol. Bydd y cynllun hwn ar gael i bob AHNE a Pharc Cenedlaethol sydd eisoes â seilwaith trydan National Grid.

Yn y gaeaf, bwriedir lansio’r cynllun hwn i wella’r dirwedd gan ddarparu hyd at £24 miliwn dros chwe blynedd. Y nod fydd lleihau effaith weledol seilwaith presennol National Grid mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol a gwella ansawdd gweledol cysylltiedig y dirwedd. Gallai nifer o wahanol brosiectau i sicrhau gwelliannau gweledol lleol wella bioamrywiaeth, gwneud lles i’r dreftadaeth ddiwylliannol neu godi ymwybyddiaeth o nodweddion naturiol a hanesyddol tirwedd penodol.