Harddwch Naturiol

Mae’r amgylcheddwr a’r darlledwr Chris Baines yn egluro pam ei fod yn teimlo’n gryf am fannau agored, a beth wnaeth ei ysgogi i dderbyn y rôl o gadeirydd ar Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid y prosiect VIP.

Cefais fy magu yn Sheffield gan rieni oedd yn hoff iawn o gerdded. Treuliwyd penwythnosau yn Ardal y Peak a gwyliau yn Ardal y Llynnoedd neu Eryri – yn aml iawn yn y glaw.

Fel myfyriwr yng Nghaint, mi ddes i garu tirlun tonnog y Weald, ac am y rhan fwyaf o ‘mywyd gwaith mae Canolbarth Cymru a Bryniau ‘Blue Remembered Hills’ Sir Amwythig wedi bod yn ddihangfa o fywyd trefol Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Fel cyflwynydd rhaglen Countryfile y BBC rwyf wedi crwydro ar draws tirluniau o Gernyw i Ororau’r Alban, ac yn y blynyddoedd pan oeddwn yn athro pensaernïaeth tirlun trefnais deithiau astudiaeth ar gyfer fy myfyrwyr i amryw o ardaloedd gwledig eraill yng Nghymru a Lloegr.

Rhyw ffordd neu’i gilydd rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â llawer o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) y gwledydd hyn.

Pa mor ffodus ydym fod gennym dreftadaeth o dirluniau mor fendigedig ar yr ynys boblog hon.

Pa mor ffodus ydym fod gennym dreftadaeth o dirluniau mor fendigedig ar yr ynys boblog hon. Yn fyd-eang, mae ein Parciau Cenedlaethol a’n tirluniau gwarchodedig arbennig yn anghyffredin.

Nid diffeithwch gwyllt mohonynt. Maent yn cael eu ffermio, eu coedwigo ac ar y cyfan yn eithaf poblog. Mae’r cloddiau a’r gwrychoedd, y cnydau, yr anifeiliaid fferm a’r trefi a’r pentrefi i gyd yn atgyfnerthu cymeriad pob lle ac yn cryfhau pa mor unigryw ydynt, ac edmygir ni’n fawr am allu taro cydbwysedd rhwng mwynhad y cyhoedd, cynhyrchedd economaidd a gwarchod y tirlun.

Er bod pentref cysglyd neu gamlas droellog efallai’n cael eu gweld fel caffaeliad yn y tirlun gwledig, mae ymyriadau eraill gan ddyn sy’n fwy cynhennus. Ar y cyfan mae gwrthwynebiad i ffyrdd newydd sy’n dod â sŵn traffig ac sy’n tarfu ar gorneli tawel cefn gwlad. Mae planhigfeydd o goed conwydd a leolir yn ansensitif, chwareli diwydiannol mawr ac adeiladau swmpus i gyd yn amhoblogaidd, ac mae tyrbinau gwynt yn cynhyrfu’r dyfroedd lle bynnag yr ystyrir eu bod yn fygythiad i dirluniau agored dilychwin.

Rhaid cyfaddawdu rhywfaint mewn gwlad lle mae tir mor brin, a’r pwysau gan bobl mor fawr. Fodd bynnag, mae symudiadau cyffrous ar droed i leihau effaith weledol un elfen fawr yn ein hardaloedd cefn gwlad mwyaf gwerthfawr.

Daeth cronfa Brydeinig o £500 miliwn gan Ofgem ar gael i ddelio gyda rhai o’r gwifrau trawsyrru trydan mwyaf ymwthiol mewn Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd AoHNE. Y Grid Cenedlaethol sydd piau’r mwyaf o’r strwythurau hyn ac mae’r cwmni’n gweithio’n gydweithredol â rhanddeiliaid i achub ar y cyfle a ddaw gyda’r arian hwn i warchod a gwella ein tirluniau mwyaf hynod. Credaf y dylid llongyfarch y cwmni am ddal ar y cyfle hwn ac am fynd ati mor frwdfrydig.

Mae £500 miliwn yn llawer iawn o arian a dylid ei wario’n ddoeth. Mae tynnu peilonau i lawr a rhedeg gwifrau o dan y ddaear yn fusnes drud iawn, ond gall wneud gwahaniaeth dramatig i rai o’n tirluniau harddaf. Mae penderfynu lle orau i fuddsoddi’r arian yn orchwyl sy’n cael ei dirprwyo i banel cynghori wedi’i sefydlu’n arbennig gyda chynrychiolwyr o nifer o asiantaethau’r llywodraeth a grwpiau buddiannau cefn gwlad yn y DU. Rwyf yn falch iawn o fod yn gadeirydd ar y panel hwn.

Byddwn yn ymgynghori’n lleol a helaeth ar y safleoedd a ddewisir a bydd y broses mor agored ag y gallwn ei gwneud hi, gyda phob cam yn cael ei rannu gyda’r cyhoedd.

Byddwn yn gwneud ein penderfyniadau yng ngoleuni rhaglen drylwyr o waith dadansoddi tirlun sydd i’w wneud gan ddau dîm o ymgynghorwyr tirlun arbenigol, dan arweiniad profiadol iawn yr Athro Carys Swanwick.

Mae eu gwaith paratoi’n cael ei wneud dros yr haf eleni gan ddisgwyl y gallwn ddechrau dyrannu’r arian o fewn blwyddyn.

Byddwn yn ymgynghori’n lleol a helaeth ar y safleoedd a ddewisir a bydd y broses mor agored ag y gallwn ei gwneud hi, gyda phob cam yn cael ei rannu gyda’r cyhoedd. Rydyn ni’n disgwyl gallu cefnogi ystod eang o brosiectau, yn fawr a bach, a gwnawn ein gorau i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r arian a’r arbenigedd sydd ar gael.

Bydd y newidiadau mwy uchelgeisiol yn cymryd mwy o amser i’w cyflawni ar y ddaear, ond gallwn edrych ymlaen at welliannau gweledol ysblennydd i nifer o dirluniau arbennig iawn erbyn diwedd 2018.

Credaf fod hwn yn brosiect cyffrous iawn a dylid llongyfarch Ofgem am ddefnyddio eu pŵer a’u dylanwad ar ein rhan i gyd mewn ffordd mor gadarnhaol.

Bydd yr effaith ar y tirlun yn drawiadol, ond gobeithio y gallwn ddefnyddio hyn fel cynsail bwerus i ddenu cyfraniadau tebyg i’r tirlun gan ddiwydiannau eraill a reoleiddir.

Efallai y gallai Ofwat, y corff rheoleiddio dŵr, fabwysiadu dull yr un mor feiddgar drwy ofyn i gwmnïau dŵr fuddsoddi yn y tirluniau gwledig sy’n darparu ein cronfeydd dŵr yfed naturiol. Efallai y gallai corff rheoleiddio’r cwmnïau rheilffordd eu hannog i ddefnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth cenedlaethol i ailgysylltu cynefinoedd bywyd gwyllt.

Ymgyrchodd genhedlaeth fy rhieni dros yr hawl i fwynhau Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd arbennig eraill cefn gwlad. Gobeithio yr edrychir ar y prosiect gwifrau trydan hwn fel rhywbeth sy’n cynnal y traddodiad balch hwnnw.