Effaith gadarnhaol

Chris Baines, yr amgylcheddwr a’r darlledwr, yn ein diweddaru ar ei rôl fel cadeirydd y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol ac yn trafod y datblygiadau diweddaraf gyda’r rhaglen £500m i wella edrychiad ein Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Credaf ein bod wedi gwneud llawer iawn o gynnydd dros y chwe mis neu fwy ers i’r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid gyfarfod gyntaf. Yn sicr rydyn ni wedi dysgu llawer iawn am yr her o leihau effaith weledol peilonau a gwifrau trawsyrru trydan ar dirluniau gwerthfawr.

Pan gyfarfu’r Grŵp gyntaf mis Ebrill diwethaf, roedden ni i gyd yn teimlo bod £500m yn swm anferth i’w wario mewn Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE). Fodd bynnag, gyda chilomedr o wifren drydan yn costio tua £20m i’w chladdu, daeth yn amlwg yn fuan mai dim ond ychydig iawn o’r gwifrau mwyaf amlwg yn y tirlun y byddai’n bosib eu claddu’n llawn.

... gyda chymorth gan arbenigwyr y Grid Cenedlaethol a’n cynrychiolydd panel o Ofgem, rydyn ni wedi dod o hyd i ffordd o wneud i effaith yr arian fynd yn bellach.

Gallem wneud i’r arian fynd yn bellach pe bai modd symud rhai o’r gwifrau yn hytrach na’u claddu, ond byddai atebion peirianyddol caled yn unig yn debygol o adael y rhan fwyaf o’r 30 o dirluniau dynodedig oedd yn gymwys heb eu gwella.

O sylweddoli hyn, aethom ati’n ddiymdroi i ystyried ffyrdd eraill o leihau’r effaith weledol. Rwyf yn falch o ddweud, gyda chymorth gan arbenigwyr y Grid Cenedlaethol a’n cynrychiolydd panel o Ofgem, ein bod wedi dod o hyd i ffordd o wneud i effaith yr arian fynd yn bellach.

Er bod angen gwario’r rhan fwyaf o’r arian ar nifer fach o gynlluniau peirianyddol mawr, rydyn ni’n benderfynol y dylid defnyddio swm sylweddol – gymaint â £24 miliwn – dros y chwe blynedd nesaf yn cefnogi ystod gyfan o newidiadau llai sylweddol a mwy lleol i’r tirlun.

Mae gwaith ar y cynlluniau mawr bellach wedi cyrraedd cam hynod dechnegol. Mae’r gwaith asesu tirlun hynod drylwyr gan ein hymgynghorwyr wedi adnabod oddeutu dwsin o rannau o wifren drydan sy’n cael yr effaith weledol fwyaf ar y tirlun. Y cam nesaf fydd gwneud astudiaethau manwl arnynt, ond bydd yn cymryd misoedd lawer i ddadansoddi materion fel daeareg, archaeoleg, sensitifrwydd ecolegol, mynediad a pherchnogaeth y tir dan sylw.

Yn y cyfamser, rydyn ni’n disgwyl gallu annog ystod eang o gynlluniau llai cymhleth y bydd yr arian yn buddsoddi ynddynt. Rydym eisiau i’r cyfraniadau cymharol gost isel hyn i wella’r tirlun fod yn ddychmygus ac arloesol.

...byddant yn cyflwyno gwelliannau gwirioneddol i’r tirlun yn llawer cynt na’r cynlluniau peirianyddol mawr ac yn gadael i ni fanteisio ar sgiliau, arbenigedd a brwdfrydedd amryw byd o wahanol bobl.

Diau y bydd rhai’n cynnwys plannu lleol er mwyn cuddio hagrwch yn y tirlun, ond rydyn ni hefyd eisiau annog adfer y tirlun drwy wella cynefinoedd, trwsio cloddiau, ail-wynebu llwybrau troed a chynlluniau mwy uchelgeisiol fel symud meysydd parcio a golygfannau i leoliadau eraill. Rydyn ni hefyd yn awyddus i weld y tirluniau’n cael eu gwneud yn fwy difyr drwy gynlluniau i ychwanegu mwy o ddehongli, arwyddbyst a dysgu am y tirlun.

Mae gan y cyfraniadau lleol a llai dirodres hyn i’r Ddarpariaeth Effaith Weledol apêl arbennig.  Yn gyntaf, byddant yn cyflwyno gwelliannau gwirioneddol i’r tirlun yn llawer cynt na’r cynlluniau peirianyddol mawr. Maent yn rhoi sgôp i gynnig manteision gweladwy i lawer o’r 30 o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd AoHNE yr effeithir arnynt gan wifrau trawsyrru’r Grid Cenedlaethol, ac yn gadael i ni fanteisio ar sgiliau, arbenigedd a brwdfrydedd amryw byd o wahanol bobl.

Rydyn ni wedi penderfynu mai awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd AoHNE ddylai gyflwyno’r prosiectau unigol am gyllid, i sicrhau bod y gronfa ariannol yn gytûn â chynlluniau strategol ehangach. Fodd bynnag, rydyn ni eisiau annog gymaint o bartïon budd â phosib i wneud eu rhan.

Mae’r tirluniau hyn i gyd yn bwysig i amrediad eang o grwpiau budd, o elusennau gwarchod natur i gyrff tirlun a threftadaeth a chymunedau lleol. Rydyn ni eisiau gwneud y defnydd gorau posib o’u cryfderau unigol a chyfunol i gyd.