Gair am y prosiect

Nod y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw lleihau effaith weledol llinell uwch ben National Grid dros aber afon Dwyryd ger Porthmadog.

Snowdonia_About

 

Gair am y prosiect

Nod y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw lleihau effaith weledol llinell uwch ben National Grid dros aber afon Dwyryd ger Porthmadog.

Mae’r rhanddeiliaid wedi cytuno mai’r ffordd orau o wneud hyn yw tynnu rhan o’r llinell uwch ben i lawr a chladdu ceblau trydan o dan y ddaear yn ei lle. Dyma gyfle gwych i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth amgylcheddol y rhan hon o dirwedd gwerthfawr Eryri.

Y darn o’r llinell uwch ben

Mae’r darn o’r llinell uwch ben sy’n cael ei ystyried yn rhedeg o Gompownd Pennau Selio (SEC) y Garth ger Minffordd (sydd i’r dwyrain o Borthmadog), ac yn croesi aber afon Dwyryd ym Mhenrhyndeudraeth, lle mae’n cyrraedd pen gorllewinol y Parc Cenedlaethol.  Yna, mae’n mynd ymlaen tua’r dwyrain ychydig y tu hwnt i anheddiad bychan Cilfor.

Mae’r darn hwn o’r llinell uwch ben, a godwyd yn 1966, yn rhan o linell drydan 400kV sy’n cysylltu is-orsaf 400kV Pentir ger Bangor ag Atomfa Trawsfynydd gynt, sy’n is-orsaf 400kV erbyn hyn.

Mae ceblau tanddaear eisoes yn croesi aber afon Glaslyn i’r gorllewin o’r darn lle bwriedir cael y prosiect VIP.

Ar hyn o bryd, mae’r peilonau’n cario un gylched 400kV ar y naill ochr i’r peilon, a chylched arall 132kV ar yr ochr arall sy’n rhan o system gweithredwyr y rhwydweithiau dosbarthu (DNO).

Mae llwybr 4ZC yn rhan hanfodol o seilwaith trydan Cymru a Lloegr a byddai’n rhaid i unrhyw ddewisiadau posibl fel rhan o’r prosiect hwn gael eu cynllunio i gyd-fynd â’r seilwaith presennol er mwyn helpu i sicrhau cyflenwadau trydan diogel a dibynadwy i ogledd Cymru a’r tu hwnt.

Pam y dewiswyd y darn hwn?

Nodwyd mewn astudiaeth annibynnol o’r dirwedd fod y darn hwn o’r llinell yn cael effaith fawr ar y dirwedd yn enwedig yng Nghefnwlad Arfordir Ardudwy ac ar ddarn bychan o dirwedd Morfa Harlech. Mae hon yn dirwedd gymhleth a dramatig yn yr ardal rhwng arfordir y Parc Cenedlaethol sy’n boblogaidd gan dwristiaid a’r bryniau gerllaw.

Gwelir nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol yn glir yn y dirwedd sy’n hardd iawn ac yn werthfawr o ran cadwraeth a hamdden.

Mae’r llinell uwch ben bresennol yn gwrthdaro â chymeriad y dirwedd. Mae’n amlwg iawn ac yn ymwthiol ac mae’n cael dylanwad eang ar y dirwedd o’i chwmpas.

Byddai cael gwared â’r llinell uwch ben yn gwella nodweddion arbennig tirwedd yr ardal, yn cynnwys Tirwedd Hanesyddol gofrestredig Aberglaslyn. Byddai golygfeydd ac amgylchoedd parcdir a gerddi cofrestredig Portmeirion a nifer o adeiladau rhestredig ar eu hennill hefyd a byddai’r golygfeydd a welir o ffyrdd a llwybrau lleol a rheilffordd yr arfordir yn gwella pe bai’r peilonau’n cael eu tynnu i lawr.

Ein gwaith yn Eryri hyd yma

Ers 2015, rydym wedi cynnal cyfres o weithdai technegol ar gyfer rhanddeiliaid a digwyddiadau ‘galw heibio’ ar gyfer y cyhoedd yn y Parc Cenedlaethol. Roedd y gweithdai i randdeiliaid yn cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Roedd y rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd a ddaeth i’r digwyddiad hwnnw yn ffafrio claddu’r ceblau o dan y ddaear. Y teimlad oedd na fyddai sgrinio neu guddliwio’r peilonau na defnyddio peilonau o gynllun gwahanol yn cael digon o effaith.

Rydym wed dal ati i gydweithio â rhanddeiliaid technegol lleol er mwyn canfod a datblygu coridorau llwybrau posibl ar gyfer y gwaith hwn. Rydym yn cydweithio â rhanddeiliaid a pherchnogion tir allweddol i ganfod unrhyw nodweddion o ran yr amgylchedd, archaeoleg a’r tir a fydd yn dylanwadu ar leoliad llwybr tanddaear.