Gwasanaeth VIP

Hector Pearson, Rheolwr Polisi Cynllunio’r Grid Cenedlaethol, yn egluro bod hwn yn gyfle cyffrous i’n helpu i flaenoriaethu sut i ddefnyddio darpariaeth gyllid newydd o £500m i wella edrychiad ein parciau cenedlaethol a’n hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.

Tamar Valley HP blog for ALL

Mae harddwch naturiol cefn gwlad Prydain yn ddigymar, ac yn enwedig felly yn ein parciau cenedlaethol a’r mannau sydd wedi eu dynodi’n ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol (AoHNE). Tirlun byw ydyw, wedi’i lunio gan y tywydd, y tymhorau a’r myrdd o ddefnyddiau a wnawn ohono.

Ond er bod defaid yn pori a waliau a phontydd cerrig efallai’n ychwanegu at degwch ein bryniau a’n cymoedd, gwyddom fod lle i wella ar rai agweddau ar yr amgylchedd naturiol hwn. Mae gwneud rhywbeth i guddio effaith peilonau a gwifrau trydan – sy’n angenrheidiol ar gyfer ein safon byw – yn disgyn i’r categori hwn.

Does neb eisiau gweld tirluniau cenedlaethol bwysig yn cael eu hagru, nac atal eraill rhag eu mwynhau. Dyna pam fy mod yn bersonol falch iawn bod y corff rheoleiddio ynni, Ofgem, wedi rhoi cyfle i ni wneud rhywbeth adeiladol am y gwifrau trydan sy’n croesi Cymru a Lloegr. Mae Ofgem wedi neilltuo £500m i liniaru effaith weledol y gwifrau hyn mewn parciau cenedlaethol ac ardaloedd AoHNE. Darpariaeth Effaith Weledol – neu’n fyr VIP – yw ein henw ar y prosiect.

Mae’r prosiect VIP hwn yn gam pwysig mewn harddu’r tirluniau gwarchodedig y mae’r gwifrau uwchben yn eu croesi. Ac er y teimlwn yn gryf dros wneud ein rhan i warchod rhai o’n tirluniau mwyaf gwerthfawr, rydyn ni hefyd yn awyddus i wneud hynny ar y cyd â’r bobl sy’n gweithio’n ddiflino i ddiogelu cefn gwlad Prydain.

Felly heddiw rydyn ni’n lansio ein hymgynghoriad cyhoeddus ar bolisi’r Grid Cenedlaethol i wella effaith gwifrau trydan uwchben. Mae tua 580 cilometr o’r gwifrau hyn yn croesi saith parc cenedlaethol ac 19 o ardaloedd AoHNE, felly dim prinder o leoedd lle gellid gwario arian y Ddarpariaeth Effaith Weledol.

Credwn fod angen consensws eang ar ble i wario’r £500m hwn, gyda rhanddeiliaid yn ein helpu i flaenoriaethu. Felly byddwn yn sefydlu Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid, gyda chadeirydd annibynnol. Bydd aelodau’r Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau sydd â ffocws cenedlaethol ar ein treftadaeth naturiol ar draws Cymru a Lloegr. Mae angen eu help arnom i adnabod yr ardaloedd a fyddai’n elwa fwyaf o liniaru’r effaith weledol, ac i flaenoriaethu pa rai y dylid buddsoddi ynddynt.

Credwn fod angen consensws eang ar ble i wario’r £500m hwn, gyda rhanddeiliaid yn ein helpu i flaenoriaethu.

Rydyn ni’n awyddus i gofleidio rhanddeiliaid i’n helpu i wneud dewisiadau gwybodus am y mannau fydd yn elwa fwyaf o’r arian sydd ar gael.

Bydd aelodaeth y grŵp hwn yn cael ei chyhoeddi nes ymlaen eleni. Bwriadwn wahodd sefydliadau fel y cymdeithasau cenedlaethol ar gyfer parciau cenedlaethol ac ardaloedd AoHNE, Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol, Cymdeithas y Cerddwyr, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r asiantaethau swyddogol sydd â budd allweddol yn yr ardaloedd hyn. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda nhw i wneud y mwyaf o’r cyfle pwysig hwn.

Byddwn hefyd yn ymgynghori’n eang â’n rhanddeiliaid a’n defnyddwyr, a’r cyhoedd yn gyffredinol – er enghraifft grwpiau a phobl sy’n defnyddio parciau cenedlaethol ac ardaloedd AoHNE, tirfeddianwyr, awdurdodau cynllunio ac eraill – a phan fyddwn yn llunio’r cynigion mwy pendant, gyda phobl leol hefyd.

Rydyn ni’n awyddus i gofleidio rhanddeiliaid i’n helpu i wneud dewisiadau gwybodus am y mannau fydd yn elwa fwyaf o’r arian sydd ar gael. Mae’r Grid Cenedlaethol yn ymrwymedig i ddefnyddio’r arian oherwydd dangosodd ymchwil mai dyma beth y mae defnyddwyr ei eisiau. Ond mae symud ymlaen gyda phrosiectau mawr fel hyn yn cymryd amser, felly rhaid i ni fod yn sydyn. Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar ein drafft polisi ar ddefnyddio’r ddarpariaeth yn dechrau heddiw.

Fel y gwelwn ni hi, mae nifer o opsiynau ar gael a allai, diolch i’r arian newydd, fod yn bosibiliadau gwirioneddol. Gallem gladdu gwifrau yn hytrach na’u rhedeg uwchben; gallem ddefnyddio peilonau o ddyluniad gwahanol, fel y T-peilon newydd; gallem ail-lwybro gwifrau, neu eu tynnu i lawr. Gallem blannu coed a chyflawni gwelliannau tirlun i guddio seilwaith fel is-orsafoedd o olwg y cyhoedd.

Darparu ynni’n ddiogel, dibynadwy ac effeithlon yw’r hyn sydd wrth graidd ein busnes, a gwneud hynny’n gyfrifol. Credwn mai drwy ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yw’r ffordd iawn o wneud hyn.

Unwaith y byddwn wedi derbyn sylwadau, byddwn yn cyhoeddi datganiad polisi yn yr hydref ac yn dechrau gweithio gyda rhanddeiliaid i ddewis cynlluniau.

Nid yw ymgynghoriad cyhoeddus yn gweithio ond os yw’r cyhoedd yn cymryd rhan. Nid oes raid i chi fod yn arbenigwr, yn dirfeddiannwr neu’n aelod o gorff swyddogol i leisio barn, felly cadwch lygad allan am gyhoeddiadau ynglŷn â’r ymgynghoriadau cyhoeddus er mwyn gallu cymryd rhan.

[Cyhoeddwyd y post hwn gyntaf ar ein blog Cysylltu’r Grid Cenedlaethol.]