Llinell Amser y Prosiect
Beth a wnaed hyd yma yn Eryri, beth sydd ar y gweill a beth fydd yn digwydd os bydd y prosiect yn mynd ymlaen.
Hydref 2014
Nodwyd bod llinellau uwch ben sy’n croesi aber afon Dwyryd ger Porthmadog ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn cael effaith sylweddol ar y dirwedd a’r golygfeydd.
Gaeaf 2014 – Hydref 2015
Gwnaeth National Grid ac ymgynghorwyr tirwedd annibynnol ragor o waith technegol ac ystyried cyfraniadau manwl rhanddeiliaid lleol yng Ngwynedd a’r Parc Cenedlaethol. O ganlyniad i hyn, cafodd y darn hwn o’r llinell drawsyrru ei flaenoriaethu ym mis Medi 2015 fel un o bedwar trwy Gymru a Lloegr i symud ymlaen â nhw.
Gwanyn 2015
Sefydlwyd Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid gan National Grid a phartneriaid lleol. Mae’r sefydliadau isod yn dod i’r cyfarfodydd technegol hyn yn rheolaidd:
- Cadw
- Gwasanaeth Cynllunio Archaeolegol Gwynedd
- Cyngor Gwynedd
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Network Rail
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Gaeaf 2015 – Haf 2016
Cynhaliodd National Grid arolygon o amgylchedd, trafnidiaeth ac ecoleg ardal y llinell, y tu mewn a’r tu allan i ffin y Parc Cenedlaethol, gan drafod gyda rhanddeiliaid technegol ac aelodau o’r gymuned leol.
Hydref – Gaeaf 2016
Bu Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid y prosiect VIP yn ystyried canlyniadau’r arolygon amgylcheddol a pheirianyddol, ymateb y rhanddeiliaid a’r dewisiadau yr oedd National Grid yn eu ffafrio. Argymhellodd y Grŵp y dylai’r prosiect symud ymlaen i wneud rhagor o waith datblygu a fydd yn cyfrannu at baratoi cais cynllunio.
2017 – 2018
Cynhaliwyd arolygon geotechnegol trwy gydol 2017 a 2018 ac mae’r canlyniadau’n ein helpu i ddatblygu cynlluniau peirianyddol manwl.
Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2018, cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol gennym, gyda thri diwrnod o ddigwyddiadau ym Mhenrhyndeudraeth a Thalsarnau.
Gwahoddwyd rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd o Benrhyndeudraeth a’r trefi a’r pentrefi cyfagos i ddigwyddiadau ymgynghori â’r cyhoedd i gael gwybod mwy am ein cynlluniau. Yn ogystal, roedd yr ymgynghoriad hwn yn gyfle i gyflwyno ymateb ffurfiol i’n cynlluniau.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu ein cynlluniau ymhellach cyn i’r cais cynllunio gael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
2019-20
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyn ymgeisio a digwyddiad penodol ym mis Rhagfyr yn swyddfa Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhenrhyndeudraeth. Cyflwynwyd cais cynllunio ym mis Mawrth 2020 ar gyfer safleoedd y ddau brif dŷ twnnel ar bob pen a’r seilwaith cysylltiedig.
Ym mis Gorffennaf 2020, cawsom ganiatâd cynllunio gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor Gwynedd yn amodol ar gyflawni nifer o amodau. Roedd y ddau bwyllgor cynllunio wedi cymeradwyo’r prosiect yn unfrydol.
2021
Mynd allan i dendr i ganfod a phenodi’r prif gontractwr i gyflawni’r prosiect gyda’r Grid Cenedlaethol
2022
Gwaith arolygu a dylunio’r prosiect yn fanwl. Bydd y gwaith ymarferol o sefydlu’r safle yn dechrau yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
2023 – 2029
Disgwylir dechrau ar y gwaith adeiladu go iawn yn 2023 a bydd y peilonau a’r llinell uwchben yn dechrau cael eu tynnu i lawr a’u clirio’n barhaol yn 2029.